Ciw-restr

Pleser a Gofid

Llinellau gan Rheswm Natur (Cyfanswm: 54)

 
(1, 1) 794 Chwenycha' i'n 'nawr, a mawr yw 'mwriad,
(1, 1) 795 Gael deall cyneddf dull eich caniad.
 
(1, 1) 797 Rheswm natur maent yn fy ngalw.
(1, 1) 798 ~
(1, 1) 799 Dyn wyf a gafodd a dawn gyfan
(1, 1) 800 Fy nwyn i fynu'n ol fy anian,
(1, 1) 801 Yn mhob iaith a dysg oruchel,
(1, 1) 802 Fel hwnw gynt wrth draed Gamaliel.
(1, 1) 803 ~
(1, 1) 804 Ac er hyn, 'rwy'n ffaelu'n lanweth
(1, 1) 805 Ddeall goleuni o ddull Rhaglunieth;
(1, 1) 806 Mae'r droell hono'n chwyldroi'n brysur,
(1, 1) 807 Ddamweinie croes i Reswm Natur.
 
(1, 1) 817 Mae hyn 'rwy'n gweled galed gwlwm,
(1, 1) 818 Tu hwnt i ddeall cnawdol Reswm,
(1, 1) 819 Peth dirgel iawn yn gweithio'n groes,
(1, 1) 820 Yw rhagluniaethe yn mhob oes.
 
(1, 1) 845 Rhyfedd! rhyfedd yw rheoleth,
(1, 1) 846 A llwyr ganlyniad llaw Rhaglunieth;
(1, 1) 847 Rhai'n cael pleser ac esmwythfyd,
(1, 1) 848 A'r lleill yn gyfan dan wall gofid.
(1, 1) 849 ~
(1, 1) 850 Gofid natur sydd yn greulon,
(1, 1) 851 Yn gwasgu beunydd yn mhob dybenion,
(1, 1) 852 Mae genyf ganiad oernad arno,
(1, 1) 853 Gan mor aflonydd mae'n ymflino,
 
(1, 1) 917 Fi, Rheswm Natur, sy' mewn caethder,
(1, 1) 918 A gormod gofid ar ei gyfer.
 
(1, 1) 938 Ofni yr ydwy' fod rhyw fagl,
(1, 1) 939 Yn moddlondeb cnawd a thymer ddiofal;
(1, 1) 940 Rhai'n cael eu byd heb groes na blinder,
(1, 1) 941 Yn chwyddo i fynu gan eu balchder.
 
(1, 1) 946 Mae dynion eraill anfoddlongar,
(1, 1) 947 Rhai segur, diog, an'wyllysgar,
(1, 1) 948 Cenfigenus ac aflawen,
(1, 1) 949 Yn tynu croese i'w pene eu hunen.
(1, 1) 950 ~
(1, 1) 951 Dyna rai gydd yn ymrwystro,
(1, 1) 952 O eisie cael pob peth i'w plesio;
(1, 1) 953 Balchder ac anesmwythder meddwl,
(1, 1) 954 Sy'n tynu llawer un i drwbwl.
(1, 1) 955 ~
(1, 1) 956 'Rwy'n canfod hyn yn nhrefn gwladwrieth,
(1, 1) 957 Fod llawer iawn o anllywodreth;
(1, 1) 958 Esgeulus anghymedrol fywyd,
(1, 1) 959 Sy'n penu gafel poen a gofid.
 
(1, 1) 969 Mae tlâwd a dall mewn newyn a noethni,
(1, 1) 970 Yn gyflwr annymunol ini;
(1, 1) 971 Er hyny'r doeth sydd foddlon dano,
(1, 1) 972 Da ydyw ei ddilyn, doed a ddelo.
 
(1, 1) 992 Ffarwel, Boddlondeb, addfwyn galon,
(1, 1) 993 A diolch i chwi am eich cynghorion;
(1, 1) 994 Adroddwch ragor yma eto,
(1, 1) 995 I rai'n gywreindog sydd yn gwrando.